
“Fe wnaeth My Stroke Guide wneud i mi sylweddoli bod strôc ddim yn ddiwedd y byd”.
- Claire, goroeswr strôc
Yn 2010, llewygodd Claire, oedd yn 19 ar y pryd, ar y Tiwb yn Llundain. Roedd y meddygon yn meddwl ei bod hi'n dioddef o bryder, ond fe welon nhw wedyn ei bod hi wedi cael dwy strôc ddifrifol. Roedd golwg, clyw a lleferydd Claire wedi cael eu heffeithio, ac roedd hi'n cael problemau gyda'i chyd-drefniant a symudedd, a oedd yn golygu bod rhaid iddi ddefnyddio cadair olwyn.
“Roeddwn i'n ofni fy mod i am farw,” meddai Claire wrth gofio'n ôl. “Ac roedd popeth roeddwn i wrth fy modd yn eu gwneud, fel chwarae pêl-droed a fy mwriad o fod yn athrawes, i gyd wedi cael eu cipio oddi arnaf. Roeddwn i'n teimlo fel na fyddai gen i bwrpas byth eto.”
Pan gafodd Claire ei rhyddhau, daeth y broses adfer i ben ac roedd hi'n gorfod ymdopi ag effaith emosiynol aruthrol strôc, yn ogystal â'r anabledd corfforol. Tair blynedd ar ôl ei strôc, daeth Claire ar draws My Stroke Guide.
“Roeddwn i'n gallu cael gafael ar gymorth a gwybodaeth am strôc, pryd bynnag a lle bynnag roeddwn i ei angen. Fe wnaeth darllen sylwadau gan bobl eraill a oedd yn teimlo'r un fath â fi helpu fi i sylweddoli nad fi oedd yr unig un.
“Byddwn i'n ei argymell i ofalwyr hefyd. Alla' i ddim mynegi fy nheimladau wrth mam, felly 'nes i ddweud wrthi am fynd ar fforwm My Stroke Guide. Darllenodd hi y negeseuon gan oroeswyr strôc a gofalwyr, ac fe wnaeth hynny ei helpu hi i ddeall fy mhrofiad i.” Roedd Claire yn defnyddio My Stroke Guide i gael gwybodaeth a chyngor i'w helpu hi i ddeall mwy am effeithiau strôc hefyd. “Roeddwn i'n mwynhau'r fideos oherwydd roedden nhw'n rhoi cipolwg ar y ffeithiau i fi. Er enghraifft, pan oeddwn i'n ofnadwy o flinedig am ddim rheswm, fe 'nes i chwilio ar My Stroke Guide a dod o hyd i fideo a oedd yn esbonio bod hynny'n gwbl naturiol. Mae hynny wedi fy helpu i symud ymlaen.”
Bellach yn gweithio fel Cynorthwyydd Cymorth Strôc Cymunedol, mae Claire yn dangos My Stroke Guide i oroeswyr strôc ac i ofalwyr yn aml. “Mae gallu gweld y wybodaeth a'r fideos yn rhoi hyder iddyn nhw, ac mae'r fforwm yn gadael iddyn nhw siarad â phobl eraill sy'n cael trafferthion tebyg. Mae hynny'n gwneud iddyn nhw deimlo'n llai unig.”