Mae tua 7,400 o bobl yn cael strôc yng Nghymru bob blwyddyn. Strôc yw un o'r prif gyflyrau sy'n achosi marwolaeth ac anabledd. Mae bron i 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.

Credwn fod pawb yn haeddu byw'r bywyd gorau y gallant ar ôl strôc. I siaradwyr Cymraeg, rydym yn gwybod bod hyn yn golygu eich cynorthwyo yn eich dewis iaith. Dyna pam rydym yn gweithio i gynyddu'r cymorth y gallwn ei gynnig trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyma'r cymorth y gallwn ei gynnig

Llinell Gymorth Strôc

Mae ein Llinell Gymorth yn cynnig gwybodaeth a chymorth i unrhyw un y mae strôc yn effeithio arno. Os yw strôc wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod, neu os hoffech wybod mwy am sut i leihau eich perygl o gael strôc, cysylltwch â ni ar: 0303 3033 100.

I ddefnyddio'r gwasanaeth Cymraeg, dywedwch wrthym yr hoffech siarad â rhywun yn Gymraeg. Byddwn yn gofyn am eich enw a'ch rhif ffôn. Bydd aelod o'r tîm sy'n siarad Cymraeg yn dychwelyd eich galwad cyn gynted â phosibl.

Ffoniwch ein Llinell Gymorth Strôc nawr ar 0303 3033 100 neu anfonwch neges e-bost at helpline@stroke.org.uk. Os yw'r llinell gymorth ar gau, gallwch ddefnyddio ein cysylltiadau y tu allan i oriau*.

Cysylltiadau y tu allan i oriau*

Os ydych yn amau bod rhywun yn cael strôc, deialwch 999 ar unwaith.

Mewn sefyllfaoedd nad ydynt yn rhai brys:

  • Ffoniwch rif 111 GIG Cymru (sydd ar gael ar hyn o bryd yn yr ardaloedd bwrdd iechyd canlynol: Hywel Dda, Powys, Aneurin Bevan a Bae Abertawe – gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr).
  • Os nad ydych yn yr ardaloedd hyn, ffoniwch rif Galw Iechyd Cymru: 0845 46 47
  • Dewch o hyd i linellau cymorth eraill trwy gyfeiriadur ar-lein y Bartneriaeth Llinellau Cymorth.

Cyhoeddiadau

Archwiliwch ein hamrywiaeth o ganllawiau gwybodaeth manwl sy'n cynnig cymorth a chyngor yn Gymraeg:

Fy Nghanllaw Strôc

Gwybodaeth a chyngor mewn iaith hawdd ei darllen, yn Gymraeg neu Saesneg, i'ch helpu wrth i chi wella ar ôl strôc.

Mae Fy Nghanllaw Strôc yn rhoi gwybodaeth ddibynadwy, rad ac am ddim i chi am wahanol fathau o strôc, ffactorau risg a chyflyrau eilaidd, yn ogystal â chyngor ar atal a sut i wella eich iechyd.

Gallwch ddod o hyd i adnoddau ymarferol i'ch helpu i ddeall strôc a rheoli ei heffeithiau. Mae hyn yn cynnwys adran benodol i aelodau'r teulu a ffrindiau sy'n rhoi gwybodaeth am effaith strôc a chyngor ar gynorthwyo anwyliaid.

Mae ein fforymau ar-lein cyfeillgar yn eich rhoi mewn cysylltiad ag eraill o gysur eich cartref. Maen nhw'n ffordd wych o rannu eich profiadau o strôc a chael gwybod sut mae pobl eraill yn ymdopi â theimlo'n ynysig a phryderon ynglŷn â'r dyfodol.

Gallwch ddewis cofrestru ar gyfer Fy Nghanllaw Strôc yn Gymraeg neu Saesneg, ond gallwch newid hyn unrhyw bryd gan ddefnyddio'r botwm dewis iaith.

Cofrestrwch nawr

Cymorth yn eich ardal

Rydym yn gweithio ledled Cymru i helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau ar ôl strôc. Mewn rhai ardaloedd, mae ein gwaith yn cael ei ariannu gan y GIG, gwasanaethau cymdeithasol neu gyllid elusennol, felly fe allai amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw.

I gael gwybod pa wasanaethau sydd ar gael yn eich ardal, gallwch ddefnyddio ein hofferyn chwilio neu ffonio'r Llinell Gymorth Strôc ar 0303 3033 100.

Dewch o Hyd i Gymorth

Ymgyrchu

Mae'r Gymdeithas Strôc yn cyfleu safbwyntiau goroeswyr strôc, aelodau eu teuluoedd a'u gofalwyr i lunwyr polisïau, y GIG a llywodraeth leol, ac mae'n ymgyrchu i wella gwasanaethau i bawb y mae strôc yn effeithio arnynt yng Nghymru.

Gwneir hyn fel bod yr holl gleifion a goroeswyr strôc yn gallu ailadeiladu eu bywydau a gwella cystal â phosibl. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Grŵp Trawsbleidiol ar Strôc yn Senedd Cymru a gynhyrchodd adroddiad ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc Llywodraeth Cymru.

Rydym yn galw ar bleidiau gwleidyddol i gynnwys cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer strôc yn eu maniffestos ar gyfer etholiadau Senedd Cymru yn 2021. Gallwch ddysgu mwy am yr hyn rydym eisiau i Lywodraeth nesaf Cymru ei gyflawni ar gyfer pobl y mae strôc yn effeithio arnynt yn ein dogfen 'Llywodraeth nesaf Cymru: Cynllun newydd ar gyfer strôc yng Nghymru'.

Stori Arnot

Cafodd Arnot Hughes, sy'n 74 oed o Landaf, Caerdydd, strôc ym mis Chwefror 2020, ychydig cyn i bandemig y coronafeirws orfodi cyfnod clo cenedlaethol. Gadawodd yr ysbyty ar ôl 10 niwrnod gydag anhawster cyfathrebu sy'n gyffredin ar ôl strôc, sef affasia.

Ni allai siarad o gwbl pan adawodd yr ysbyty. Cymraeg oedd ei iaith pob dydd, ond roedd sesiynau therapi lleferydd ac iaith ar gael yn Saesneg yn unig.

Dysgwch sut mae rhaglen Camau Cymunedol y Gymdeithas Strôc yng Nghymru wedi helpu Arnot i wella.


[[{"fid":"36398","view_mode":"default","fields":{"format":"default","alignment":"","field_file_image_alt_text[und][0][value]":"Cynnig Cymraeg logo","field_file_image_title_text[und][0][value]":false},"link_text":null,"type":"media","field_deltas":{"1":{"format":"default","alignment":"","field_file_image_alt_text[und][0][value]":"Cynnig Cymraeg logo","field_file_image_title_text[und][0][value]":false}},"attributes":{"alt":"Cynnig Cymraeg logo","height":300,"width":300,"style":"height: 200px; width: 200px;","class":"media-element file-default","data-delta":"1"}}]]